P-05-1008 Dysgu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ysgolion Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonny Alcock, ar ôl casglu cyfanswm o 222 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Am gyfnod llawer rhy hir yn awr, mae llofrudd tawel wedi bod yn peri galar yng Nghymru. wrth i bobl ddirifedi golli anwyliaid ar ôl brwydr anhysbys. Diben y ddeiseb hon yw pwyso am hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn ysgolion er mwyn creu cymdeithas lle bydd pobl bob amser yn cael y cymorth a’r arfau i ymladd y frwydr ofnadwy y mae llawer yn ei hwynebu bob dydd, gan achub bywydau llawer, gobeithio.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pontypridd
· Canol De Cymru